Croeso i Glwb Iotio Brenhinol Cymru
Wedi ei leoli oddi fewn i dref gaerog, ganol oesol Caernarfon, Porth yr Aur yw’r safle clwb iotio hynaf yn y byd. Mae ei leoliad unigryw yn cynnig golygfeydd syfrdanol dros Afon Menai a’r hen dref. Mae ei gysylltiad â’r môr a hwylio a’r diwylliant a’r dreftadaeth sydd wedi deillio yn eu sgil mor fyw a pherthnasol heddiw ag y buont erioed.
Dros y canrifoedd ffurfiwyd tapestri lliwgar ei hanes gan lu o ddigwyddiadau o wrthryfel cynnar y Cymry i ysblander a phasiantri’r Regatas Fictoraidd ac adnewyddiad presennol y lleoliad a’r adeilad.
Ers y cychwyn mae’r sylfaenwyr a’r aelodau wedi cyfrannu at ei lwyddiant ac wedi cyflawni gorchestion morwrol personol y gallwn i gyd ymfalchïo ynddynt.
Heddiw mae Clwb Iotio Brenhinol Cymru yn sefydliad bywiog gyda rhaglen amrywiol o ddigwyddiadau hwylio a rhwyfo a chyfarfodydd cymdeithasol. Ymunwch â ni i fwynhau’r croeso a dysgu rhagor am hanes cyfareddol y fangre hudol yma a’r bobl sydd wedi ei hanrhydeddu gyda’u presenoldeb
Digwyddiadau
Saesneg yn unig....
September 2024
Mon 2nd - The Jochen Eisentraut Trio performing in the club
Mon 2nd and subsequent Mondays 1800 to 1900 hrs - Indoor Rowing at the studio in Canolfan Brailsford
Fri 6th - Quiz hosted by Adam Marchant
Mon 9th and fortnightly thereafter - Gypsy Jazz Night
October 2024
Sat 5th - RYA Wales AGM at Plas Menai National Outdoor Centre
November 2024
30th - AGM and Dinner Dance
Webcams - cliciwch yma
Map Traffig Morol
Saesneg yn unig...
The below map shows members’ vessels equipped with AIS transceivers within the terrestrial stations’ range. Click on dots representing vessels for more information on the vessel’s last course, speed etc. If you wish to become a part of the RWYC fleet, please contact us for more details.