Aelodaeth

Nid oes raid i chi fod yn berchen cwch i ymuno gyda Clwb Iotio Brenhinol Cymraeg: rydym yn falch i groesawu pob ymgeisydd.

Mae aelodaeth cymdeithasol yn rhoi mynediad i fariau yn y clwb tra bod pob category arall yn rhoi mynediad i holl gyfleusterau y clwb fel a ganlyn.

- Defnydd o glwb CIBC, y bar, ystafelloedd newid a golchfa

- Defnydd o gychod y clwb

• Tair cwch rhwyfo Celtaidd

• Dau Yole

• Whilly, Caledonian Yawl, trelars ac offer diogelwch

• Rib i’w ddefnyddio fel cwch diogelwch

- Llogi y clwb ar gyfer digwyddiadau preifat/cyfarfodydd ar delerau aelod.

Gall newydd ddyfodiaid rwyfo/hwylio ddwy waith mewn sesiynau blasu. Wedyn estynnir gwahoddiad iddynt ymuno gyda’r clwb os dymunent.

Dyma’r gategoriau aelodaeth

LLAWN – yn cynnwys partner a phlant

PERSON HYN – oedran 65 yn cynnwys partner

CYMDEITHASOL - rhai heb gychod sydd ddim yn defnyddio cychod rhwyfo/hwylio y clwb, yn cynnwys partner a phlant

TRAMOR – rhai gyda’i prif breswylfan oddi allan i Brydain yn cynnwys partner a phlant

CADET – person sydd o dan 26 oed pan yn gwneud cais i ymaelodi ar y 1af o Ionawr a phob blwyddyn sydd yn dilyn.

Mae holl fanylion tal aelodaeth ar y ffurflen gais ar y safle we yma neu e bostio ysgrifennydd aelodaeth:
membership@royal-welsh.com
Ymholiadau eraill e bost:
secretary@royal-welsh.com
Canfyddwch ni hefyd ar facebook

Royal Welsh Yacht Club Privacy Policy 2018 - cliciwch yma (Saesneg yn unig ar gael)

Yn yr adran hon: